Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Teitl: Diweddariad ar waith y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad
Dyddiad:
8 Ionawr 2020

Diolch, Lywydd. Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ym mis Medi 2019 i archwilio argymhellion y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. Bydd yr Aelodau'n cofio i'r panel arbenigol, yn 2017, adrodd ar amrywiaeth eang o faterion, ond yn greiddiol i'w waith roedd cydnabyddiaeth fod angen i'r Cynulliad a'i Aelodau allu cyflawni ein cyfrifoldebau'n effeithiol os ydym i wasanaethu'r bobl a gynrychiolwn yn briodol. Daeth y panel arbenigol i'r casgliad, ar drothwy cyfnod newydd ar ddatganoli yng Nghymru, na all y Cynulliad barhau fel y mae heb beryglu ei allu i gyflawni dros y bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

Mae argymhellion y panel arbenigol ar bleidleisiau i bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu rhoi ar waith gan y Bil Senedd ac etholiadau. Ein rôl fel pwyllgor yw archwilio gweddill yr argymhellion, sy'n cynnwys amrywiaeth o faterion pwysig. Mae'r rhain yn cynnwys: maint y Cynulliad; ei amrywiaeth; sut y caiff Aelodau eu hethol; a'r ardaloedd rydym yn eu cynrychioli. Gellir ystyried y rhain yn faterion cymhleth a thechnegol, ond rhaid inni helpu i barhau â dadl gyhoeddus wybodus gan eu bod wrth wraidd ein democratiaeth sy'n dal i ddatblygu yng Nghymru. Fel pwyllgor, byddwn yn edrych ar bob mater yn ei dro.

Ni welwn unrhyw angen i fynd dros y tir blaenorol, felly, wrth gyflawni ein gwaith, byddwn yn cydgrynhoi ac yn ychwanegu at y dystiolaeth sy'n bodoli, gan ddefnyddio gwaith y panel arbenigol fel ein pwynt cychwynnol. Credaf y bydd y sgyrsiau rydym yn eu cael ac unrhyw argymhellion a wnawn yn fwyaf effeithiol os byddant yn ategu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Senedd ac yn seiliedig ar sylfaen eang o gefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y pwyllgor yn edrych tuag allan ac yn agored ei feddwl. Byddwn yn darparu gwybodaeth gywir a hygyrch, yn chwilio am dystiolaeth ac yn casglu safbwyntiau. Byddwn yn defnyddio ystod eang o ddulliau i gasglu tystiolaeth ac yn gwrando'n ofalus ar farn pobl.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon wedi ymwneud â'r sefydliad hwn neu wedi bod yn rhan ohono ers ei ddyddiau cynnar, ond rhaid inni gofio hefyd na fydd pobl iau—gan gynnwys y rhai 16 a 17 oed a gaiff yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf yn 2021—erioed wedi adnabod Cymru heb ddatganoli. Er mwyn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn ystod ein gwaith, rydym yn edrych ar opsiynau ar gyfer gweithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru ac ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru drwy dimau addysg ac allgymorth y Cynulliad.

Felly, mae heddiw'n foment allweddol yng ngwaith y pwyllgor. Ers i chi bleidleisio i greu'r pwyllgor hwn, rydym yn ymwybodol fod y rhan fwyaf o'n trafodaethau wedi bod yn breifat, wrth inni gael cyfarwyddyd technegol a thrafod y rhaglen waith rydym yn ei chyflwyno heddiw. Mae'r datganiad hwn yn awr yn rhoi cyfle i rannu ein cynlluniau â chi. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein dull gweithredu strategol, gan nodi ein nodau a'n hamcanion ar gyfer y misoedd i ddod, yn ogystal â'r cylch gorchwyl ar gyfer pob un o'n hymchwiliadau. Gobeithio y bydd hyn yn darparu eglurder ynglŷn â sut y byddwn yn archwilio'r tri mater allweddol yn ein cylch gwaith.

Rydym hefyd wedi lansio ein hymgynghoriad cyntaf heddiw. Rydym yn gofyn am dystiolaeth gan y gymuned etholiadol, pleidiau gwleidyddol a rhanddeiliaid eraill i lywio ein gwaith ar systemau etholiadol, ffiniau, a mecanweithiau adolygu ffiniau. Yn ogystal â chasglu tystiolaeth ysgrifenedig ffurfiol, mae arnom eisiau i bawb allu dilyn ein gwaith a dweud wrthym beth y maent yn ei feddwl. I hwyluso hyn, byddwn yn defnyddio platfform ymgysylltu digidol 'Eich Cymru Chi' i rannu gwybodaeth am ein gwaith ac i roi cyfleoedd i bobl gynnig eu syniadau a'u hadborth ar sail barhaus. Gobeithiaf y byddwch chi, fel Aelodau, yn annog pobl yn eich etholaethau a'ch rhanbarthau i ymgysylltu â'n gwaith yn y modd hwn.

Rwy'n falch heddiw o fod wedi gallu amlinellu ein rhaglen waith uchelgeisiol a chynhwysfawr y bwriadwn ei chwblhau erbyn hydref 2020. Yn wir, mae ein gwaith eisoes wedi dechrau, gyda sesiwn dystiolaeth ym mis Rhagfyr gyda'r Llywydd, a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid yn gynharach yr wythnos hon. Rydym yn bwrw iddi ar ein gorchwyl gydag ymdeimlad o realaeth gan ein bod yn gwybod bod ystod o safbwyntiau gwahanol ymhlith yr Aelodau sy'n bresennol yma heddiw. Yn ddiau, bydd amrywiaeth o safbwyntiau hefyd ymhlith y rhai a fydd yn eistedd yn y seddi hyn yn y Cynulliad nesaf, ac ymhlith yr etholwyr y byddant yn eu cynrychioli. Mae pob un ohonom yn bwrw iddi ar y materion hyn mewn perthynas â'n safbwyntiau gwahanol, ond gobeithiwn y cawn drafodaeth ystyrlon gyda'r pleidiau gwleidyddol ac o fewn y pleidiau, yn ogystal â'r bobl y mae pawb ohonom yn ceisio'u cynrychioli.

Nid ydym yn bychanu'r dasg, ond byddwn yn bwrw iddi'n frwdfrydig. Fan lleiaf, ein bwriad yw y bydd ein casgliadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cynnig trywydd ar gyfer diwygio, a fydd, gobeithio, yn helpu pleidiau gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu maniffestos ar gyfer 2021 ac yn sicrhau'r cyfle gorau posibl i gonsensws ymddangos ar ffordd ymlaen. Fel pwyllgor, mae gennym dasg heriol o'n blaenau, ond mae gennym hefyd gyfle gwirioneddol a chyffrous i gyfrannu at y ddemocratiaeth barhaus a ffyniannus yng Nghymru. Diolch yn fawr.